![]() |
||
| Lewis Morris Co-founder, with his brother Richard, of the Honourable Society of Cymmrodorion. |
||
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn y flwyddyn 1751 a derbyniodd ei Siarter Frenhinol ym 1951 pan ddathlodd ei deucanmlwyddiant. Ei phwrpas or dechrau cyntaf oedd hyrwyddo Llenyddiaeth, Gwyddoniaeth a Chelfyddyd yn eu cysylltiadau Cymreig a deil hyd heddiw i gefnogi gweithgareddau a datblygiadau yn y meysydd hyn sydd o ddiddordeb arbennig i Gymru a Chymry ac i bobl a sefydliadau sydd â diddordeb yn y wlad.
Cynhelir y mwyafrif o gyfarfodydd y Gymdeithas yn Llundain ond trefnir hefyd gyfarfodydd yng Nghymru. Ynddynt traddodir darlithiau, weithiau yn y Gymraeg, ond yn amlach yn Saesneg, gan ysgolheigion a wahoddir gan y Cyngor. Cyhoeddir y darlithiau gyda chyfraniadau dysgedig eraill yn y Trafodion blynyddol a anfonir at bob aelod.
O dro i dro, y maer Gymdeithas yn cefnogi gweithiau ysgolheigaidd eraill. Ei chyhoeddiad enwocaf ywr Bywgraffiadur Cymreig. Y maer gyfrol hyd at 1940 wedi ei chyhoeddi (ar wahân) yn y Gymraeg ar Saesneg. Cyhoeddwyd hefyd cyfrolau eraill (yn y Gymraeg yn unig) yn cynnwys y blynyddoedd 1941-1950 a 1951-1970. Ar hyn o bryd y mae cyfrolau ychwanegol ar y gweill er mwyn dod âr gyfres yn y Gymraeg ar Saesneg i fyny at y flwyddyn 1990. Fel rhan o ddathliad 250 mlynedd ers ei sefydlu, bwriedir cyhoeddi yn ystod y flwyddyn 2001 cyrol yn cynnwys cyfres o draethawdau yn ymwneud â Hanes y Cymry yn Llundain.
Y maer Gymdeithas yn gwbl huangynhaliol, yn amholiticaidd, ac yn ddi-duedd, gan gynnwys aelodau o bob dosbarth ac o bob plaid.
View in English