Caerdydd, Dinas a Phrifddinas*
gan John Davies, PhD

Yr ydym wedi dod ynghyd heno i ddathlu dyrchafiad Caerdydd i statws dinas, ganrif yn ôl, a’i dyrchafiad yn brifddinas Cymru, hanner canrif yn ôl. Pe baem yn edrych yn ôl ar Gaerdydd fel yr oedd hi, nid can mlynedd yn ôl, ond dau gan mlynedd yn ôl, fe fyddai unrhyw awgrym y byddai Caerdydd â gobaith o fod yn brif ganolfan drefol Cymru yn syniad gwbl anghredadwy. Yn ôl cyfrifiad 1801, pum tref fwyaf Cymru y pryd hwnnw oedd Abertawe (dros 10,000 o drigolion), Merthyr Tudful (dros 7,000), Caerfyrddin (dros 5,000), Wrecsam (bron 4,000) a Chaernarfon (3,500). Roedd Caerdydd, gyda 1,870 o drigolion, yn bumed ar hugain ar y rhestr, ymhell ar ôl mannau megis Amlwch, y Fflint, Hwlffordd, y Drenewydd a’r Trallwng.

Ond nid felly y bu drwy gydol y blynyddoedd, gan nad ydyw Caerdydd yn le mor ddi-dras ag y tybir yn aml. Yn 1281, roedd ynddi 432 o burgages, neu leiniau trefol, pob un mae’n debyg yn drigfan i deulu. A derbyn bod pum person ar gyfartaledd yn trigo ym mhob anheddle, dyna boblogaeth o 2,115. Yn 1281, Caerdydd oedd y dre fwyaf yng Nghymru; Hwlffordd gyda 360 o burgages oedd yr ail ar y rhestr.1 A Chaerdydd, rhwng 1281 a 1801, wedi llithro o’r safle flaenaf i’r bumed safle ar hugain, mae’n amlwg i’r blynyddoedd hynny fod yn gyfnod o farweiddra yn hanes y dre.

Bu canrifoedd olaf yr Oesoedd Canol yn greulon tuag at Gaerdydd. Bu’r Farwolaeth Fawr a achoswyd gan y Pla Du yn drychineb erchyll, a dioddefodd y dref yn enbyd adeg Gwrthryfel Glynd&Mac249;r, wrth i’w luoedd ef roi’r lle ar dân yn 1404. Yn 1547, pan ddaeth ystad Castell Caerdydd ac arglwyddiaeth Morgannwg yn eiddo i William Herbert, Iarll Pembroke, yr oedd nifer burgages y dre wedi gostwng i 269. Trigain a thair o flynyddoedd yn ddiweddarach, dengys y map a luniwyd gan John Speed yn 1610 ei bod yn dre a oedd wedi crebachu, gyda chryn dipyn o’r tir oddi mewn i’r muriau yn berllannoedd a gerddi. Doedd dim cymhelliad i godi adeiladau newydd; yn ôl William Gilpin yn 1770: ‘Cardiff appeared with more of the furniture of antiquity about it than any town we had seen in Wales.’2

Y mae’r canrifoedd hyn o grebachu yn rhywfaint o ddirgelwch, hyd yn oed yng nghyd-destun cymdeithas hanfodol cyn-drefol Cymru yn y blynyddoedd
* Darlith a drafodwyd yn Neuadd yr Ddinas, Caerdydd, 22 Ebrill 2005. 1 D. Walker, ‘Cardiff’ yn R. A. Griffiths (gol.), Boroughs of Medieval Wales (Caerdydd, 1978) tt.103–30.
2 W. Gilpin, Observations on the River Wye and several parts of south Wales etc. made in the summer of the year 1770 (pumed argraffiad, Llundain, 1800) t.130.
rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a’r ddeunawfed ganrif. Ar ryw olwg, yr oedd gan Gaerdydd fanteision a ddylai fod wedi caniatáu iddi fod yn llewyrchus. Hi oedd canolfan y gyfoethocaf o arglwyddiaethau’r Mers, ac, ar ol 1536, hi oedd tref sirol y gyfoethocaf o siroedd Cymru. Fe’i cydnabuwyd yn 1559 yn un o dair prif borthdrefi Cymru. Fe’i lleolwyd ar briffordd o bwys. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar, roedd hi ym meddiant cyfres o’r cryfaf o linachau arglwyddi’r Mers, ac o 1547 hyd 1683, roedd hi’n gartref i un o deuluoedd cyfoethocaf y deyrnas.3
Eto i gyd, mewn cyfnod cyn-fiwrocrataidd, roedd bod yn ganolfan weinyddol ddim yn esgor ar lawer o swyddi. Nid Caerdydd, eithr tref helaethach a mwy ffasiynol Aberhonddu, oedd prif ganolfan cyfreithiol deddwyrain Cymru. Er bod y cei ar lannau Afon Taf yn fan allforio cryn dipyn

o warged amaethyddol Bro Morgannwg, prif borthladd y Fro oedd Aberddawen. Prif dref y Fro oedd y Bontfaen, nid Caerdydd, ac i fab disgleiriaf y Fro – Iolo Morganwg – lle dibwys oedd Caerdydd.4 Eilbeth oedd yr heol ar draws y de trwy Gaerdydd a’r Fro o gymharu â’r briffordd fwy datblygedig a redai drwy’r Fenni ac Aberhonddu. Yn union o gwmpas Caerdydd, digon dilewyrch oedd y tir amaethyddol; ceid peth tir ffrwythlon yn union i’r gogledd o’r dref, ond cul oedd y darn o dir isel, ac i’r de o Gaerdydd roedd tiroedd oer a llaith, tiroedd cwbl anghyfannedd cyn adeiladu’r dociau. Â theulu Herbert, Ieirll Pembroke, yn byw yn eu plasty, Wilton ger Caersallog, yn hytrach nag yng Nghastell Caerdydd, peidiodd y castell â bod yn ganolfan gwariant a chyflogaeth. Mewn mannau megis Alnwick ac Arundel, yr oedd tai ac ynddynt deuluoedd aristocratig preswyliedig yn chwistrellu cymaint â deng mil o bunnau’r flwyddyn i’r economi leol; erbyn blynyddoedd olaf meddiant yr Herbertiaid yr oedd y gwariant a ddeilliai o Gastell Caerdydd fawr mwy nag ychydig gannoedd o bunnau’r flwyddyn, swm a leihaodd yn fawr adeg eu holynwyr, teulu Windsor, yn enwedig wedi i’r ail Is-iarll Windsor fynd yn fethdalwr yn 1758.5

Uwchlaw dim, cafodd Caerdydd fawr o elw, ar y cychwyn o leiaf, o’r ymchwydd mewn gweithgaredd diwydiannol a brofwyd ym Morgannwg yn negawdau cynnar y ddeunawfed ganrif. Yn wahanol i Abertawe a Chastellnedd, lle roedd y gwythiennau glo yn cyrraedd glannau’r môr, roedd Caerdydd cryn bellter o fwynau ecsbloetiadwy, ac felly ni fedrai’r dref ddenu dynion deinamig fel Humphrey Mackworth, dynion a wnaeth gyfraniad allweddol i’r broses o ddiwydiannu gorllewin Morgannwg.
I Iolo Morganwg, roedd Caerdydd yn gymuned estron a efelychai arferion Seisnig.6 Yn wir, sefydlwyd y dref yn benodol i fod yn gymuned estron. Yn y drydedd ganrif ar ddeg, aethpwyd ati i gyfnerthu Castell Caerdydd a Chastell

3 W.Rees, Cardiff, A History of the City (Caerdydd, 1962) passim. 4 G. J. Williams, Iolo Morganwg (Caerdydd, 1958) tt.30–33. 5 J. Davies, Cardiff and the Marquesses of Bute (Caerdydd, 1981) passim. 6 G. J. Williams, loc. cit.

Coch ac i adeiladu Castell Morgraig, ac, uwchlaw dim, Castell Caerffili, gyda’r bwriad o achub Caerdydd rhag cael ei llyncu gan dywysogaeth Llywelyn – hynny yw, rhag cael ei llyncu gan Gymru atgyfodol. Dichon nad ydoedd yna Gymry o dras yn byw yn y fwrdeistref yn ei blynyddoedd cynnar. Serch hynny, erbyn y Canol Oesoedd Diweddar, ceir enwau fel Gruffudd a Ieuan ymhlith perchenogion neu denantiaid burgages; ymhellach, medrai pobl a chanddynt enwau Saesneg fod â chydymdeimlad dwfn â mudiadau Cymreig
– John Sperhauke, er enghraifft, a ddienyddiwyd oherwydd iddo ddatgan maiOwain Glynd&Mac249;r oedd gwir dywysog Cymru.7 Yn y canrifoedd dilynol, cymreigiwyd y dref fwyfwy. Dengys rhestr rhenti o 1542 mai cyfenwau Cymreig oedd gan draean y trigolion, cyfartaledd a gododd i’r hanner yn ôl rhestr trethi aelwyd 1670. Erbyn hynny, roedd carfan sylweddol o Gymry Cymraeg yn byw yn y dref, y rheini wedi rhoi eu henwau eu hunain i rai o’i nodweddion – Porth Llongau i South Gate, er enghraifft, a Heol y Cawl i Wharton Street. Tu allan i ffiniau plwyfi’r dre – plwyfi Sant Ioan a’r Santes Fair – yr oedd y boblogaeth bron i gyd yn uniaith Gymraeg, fel y tystia’r geiriau a ddyfynnid mewn achosion enllib o fannau fel yr Eglwys Newydd a Llanisien.

Yn 1766, aeth ystad Castell Caerdydd a maenorau arglwyddiaeth Morgannwg i feddiant teulu Stuart, o ganlyniad i briodas Charlotte Windsor ag Arglwydd Mountstuart, mab y trydydd Iarll Bute. Ni wnaeth Mountstuart fawr ddim yng Nghaerdydd heblaw prynu tir ychwanegol yn y dref a’i chyffiniau, a chomisiynu Capability Brown i dirlunio’r parc ac ailwampio’r castell. Eto i gyd, yn y cyfnod 1766 i 1812 – blynyddoedd ei feddiant ef o’r ystad – y dechreuodd y broses o drawsffurfio Caerdydd.8
Yn y 1760au, ailadeiladwyd mur y cei er mwyn creu lle i ragor o longau, penodwyd beleiaid d&Mac249;r i oruchwylio’r fasnach ac aethpwyd ati i dynnu i lawr muriau’r dref er mwyn hwyluso llif y traffig. Yn 1774, sicrhawyd deddf seneddol i awdurdodi palmantu, glanhau a goleuo’r strydoedd, ac yn 1778 aeth y Gorfforaeth ati i gosbi’r rhai a oedd yn gyfrifol am greu tomennydd tail a chaniatáu i’w moch grwydro’r strydoedd.
Darfu i’r ynni newydd yma gyd-ddigwydd â – a chael ei ysgogi gan – ffyniant cynyddol y porthladd. Daeth y datblygiad allweddol yn y 1790au, gydag agor Camlas Sir Forgannwg, camlas a gysylltai Gaerdydd gyda Merthyr Tudful. Medrai wagen a dynnid gan bedwar ceffyl gludo dwy dunnell o nwyddau; medrai ysgraff ar gamlas a dynnid gan un ceffyl gludo pum tunnell ar hugain o nwyddau. Dim ond llongau o lai na phedwar ugain tunnell a fedrai ddefnyddio cei Caerdydd, ac yr oedd rhaid i’r llongau ymlwybro am ddau gilometr i fyny sianel droellog Afon Taf. Medrai’r llongau a ddefnyddiai’r llifddor a gysylltai gwaelod y gamlas â’r môr fod yn gymaint â dau gan
7 J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, 1931) tt.53-4. 8 J. Davies, op.cit, tt.34-42, 84-9.
tunnell. Felly, ymhlyg yn nyfodiad y gamlas roedd chwyldro mewn cludiant. Cyllidwyd y gamlas gan feistri haearn Merthyr, man lle cynhyrchid ugain mil
o dunelli o haearn crai y flwyddyn erbyn y 1790au. Yr oedd cludiant trafferthus y cyfnod cyn dyfod y gamlas yn golygu fod allforio glo o Gaerdydd yn aneconomaidd, gan fod glo, mewn perthynas â’i swmp, yn llawer llai gwerthfawr na haearn. Ys dywed swyddog tollau Caerdydd yn 1782, ‘Does dim glo yn cael ei allforio o’r porthladd hwn, ac ni fydd byth, oherwydd y gost o’i gludo o ardaloedd mewnol y wlad’.9 Gydag agor y gamlas, dechreuodd Caerdydd allforio glo, datblygiad a fyddai’n dominyddu ei hanes am ganrif a mwy, ac a fyddai’n ei thrawsnewid yn llwyr.

I sylwebyddolion y bedwaredd ganrif ar bymtheg, agor Camlas Sir Forgannwg oedd y gwir drobwynt yn hanes Caerdydd.10 Yn y 1790au, cafodd Caerdydd ei banc cyntaf, ei chae rasys cyntaf, ei gwasg argraffu gyntaf, a’i choets dyddiol gyntaf i Lundain. Agorwyd ystafell goffi, sefydlwyd nifer o gymdeithasau elusennol, atgyweiriwyd eglwys Sant Ioan, cwblhawyd yr amddiffynfeydd yn erbyn y môr a chodwyd pont newydd ar draws Afon Taf.
Roedd hyn i gyd yn digwydd mewn tref a chanddi ond 1870 o drigolion. Serch hynny, erbyn 1801, yr oedd nifer y trigolion ar fin cynyddu’n sylweddol. Yn 1811, trigai 2,457 o bobl yng Nghaerdydd, ffigwr a gododd i 6,187 yn 1831 ac i 18,351 yn 1851. A ffigyrau cyfatebol Casnewydd yn 7,602 a 19,323, roedd y twf ym mhoblogaeth y ddwy dref yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fras debyg. Yn 1851, fodd bynnag, yr oedd y naill dref a’r llall ymhell y tu ôl i Ferthyr Tudful, gyda’i 46,378 o drigolion, ac i Abertawe, gyda’i 31,461. Ymhellach, o safbwynt ei bywyd diwylliannol, yr oedd Abertawe yn tra-rhagori ar Gaerdydd. Yn Abertawe y cyhoeddwyd wythnosolion cynharaf Cymru – yn Saesneg ac yn Gymraeg. Gyda’i spa yn Ffynhonnau a’i bae hyfryd, roedd ganddi fri fel canolfan gwyliau. Yr oedd yr amlycaf o’i thrigolion wedi ennill enwogrwydd mewn meysydd yn amrywio
o ffotograffiaeth i ddaeareg, o grochenwaith i fotaneg, o feteleg i bensaernïaeth, a’i Sefydliad Brenhinol oedd prif ganolfan deallusol Cymru. Er yn llai poblog na Merthyr Tudful, dioddefai Merthyr o’r ffaith ei bod ‘yn drefol ond ddim yn ddinesig’. Yr oedd Abertawe yn drefol ac yn ddinesig, fel y tystia ei therasau gosgeiddig a harddwch ei hystafelloedd ymgynnull a’i neuadd gorfforaethol.11

Fodd bynnag, erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd y ffactorau a fyddai’n caniatáu i Gaerdydd ennill y blaen ar Abertawe eisoes yn amlwg. Yn eu plith yr oedd y doc a agorwyd yn 1839; bu’n rhaid i Abertawe

9 J. H. Matthews, Cardiff Records: materials for a history of the county borough (Caerdydd, chwe chyfrol,1898–1911) II, t.393.
10 W. H. Smyth, Nautical observations on the port and maritime vicinity of Cardiff (Caerdydd, 1840) t.9.
11 Gweler G. Williams, Swansea, An illustrated history (Abertawe, 1990) passim.
aros tan ddiwedd y pumdegau cyn cael doc, ac erbyn hynny yr oedd yng Nghaerdydd 18,000 o droedfeddi o fannau angori llongau o gymharu â 10,000
a. o droedfeddi yn Abertawe. Yn 1841, cwblhawyd rheilffordd yn cysylltu Caerdydd â Merthyr Tudful, prif ganolfan cynhyrchu haearn y byd. Bu’n rhaid i Abertawe aros tan y 1850au cyn y cwblhawyd rheilfordd yn ei chysylltu hi â’i chefnfro. Er bod y gefnfro honno yn gartref i brif ganolfan cynhyrchu copr y byd, roedd y copr y gellid ei allforio o Abertawe yn llawer iawn llai na’r haearn y gellid ei allforio o Gaerdydd. Uwchlaw dim, yr oedd hi’n amlwg, erbyn pedwardegau a phumdegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y gellid datblygu cefnfro Caerdydd i fod yn brif ganolfan y byd o safbwynt mwyngloddio glo ager, ychwanegiad at fasnach Caerdydd a oedd yn anrhaethol fwy na dim a gynigid gan gefnfro Abertawe.
b. Gyda’r fath fanteision, yr oedd pob argoel y byddai Caerdydd yn ennill y blaen ar Abertawe. Rhwng 1851 a 1901, cynyddodd nifer trigolion Caerdydd

c. o 18,351 i 164,333, o gymharu â chynnydd o 31,461 i 94,537 yn Abertawe. (Perthnasol yw nodi yr ehangwyd ffiniau’r naill dref a’r llall yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.) Enillodd Caerdydd y blaen ar Gasnewydd ganol y pumdegau ac ar Ferthyr ac Abertawe ddiwedd y chwedegau. Mae’r ffaith fod poblogaeth Caerdydd wedi tyfu mor syfrdanol o gyflym o ganol y ganrif ymlaen i’w briodoli’n rhannol i ffactor nad ydwyf hyd yma wedi’i grybwyll – sef gweithgarwch ystad Bute. Blaengarwch personol yr ail Ardalydd Bute a ganiataodd i Gaerdydd sicrhau doc modern bron ugain mlynedd cyn i Abertawe gael system o ddociau cyffelyb – er cryn dipyn yn llai. Yr oedd gallu’r ardalydd i ymgymryd â’r gwaith yn ganlyniad i’w oruchafiaeth diriog yng Nghaerdydd. Ond ei oruchafiaeth yno oedd megis dechrau’r mater. Roedd y Butiaid yn tra-arglwyddiaethu, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn ardaloedd cyfoethocaf y maes glo yn ogystal. Roedd yn anochel bron y byddai Caerdydd, a hithau wedi’i lleoli ar aber Afon Taf, yn dod yn brif borthladd ar gyfer allforio cynnyrch Dyffryn Taf a dyffrynnoedd ei phrif isafonydd – Cynon a Rhondda. Fodd bynnag, yr oedd traarglwyddiaeth tiriog y Butiaid yn caniatáu iddynt ehangu cefnfro Caerdydd y tu hwnt i ffiniau basin Afon Taf. Pan yn prydlesu’r gwythiennau glo o dan eu tiroedd, medrai’r Butiaid fynnu bod y dalwyr prydlesi yn allforio eu glo o Gaerdydd. Aeth swyddogion ystad Bute ati i archwilio pob mesur seneddol yngl&Mac223;n ag adeiladu rheilffyrdd yn y maes glo gan lwyddo i wanychu’r rheini a oedd yn anfanteisiol i Gaerdydd – y rheilffordd yn cysylltu Merthyr a Chastell-nedd, er enghraifft, a’r un yn cysylltu’r Rhondda ac Abertawe.12

Uwchlaw dim, y Butiaid a oedd yn gyfrifol am Reilffordd Cwm Rhymni. Er bod Afon Rhymni yn cyrraedd y môr yng nghyffiniau Caerdydd, mae’r afon yn cyrraedd y gwastadeddau ym Medwas, sy’n agosach at Gasnewydd
12 J. Davies, op.cit, tt.277–91.

nag ydyw at Gaerdydd. ‘Y mae Rhagluniaeth’, ysgrifennodd rheolwr gwaith haearn Rhymni yn 1824, ‘wedi bwriadu cynnyrch Cwm Rhymni ar gyfer Casnewydd.’13 Yn wir, yn oes y tramffyrdd, a ragflaenodd oes y rheilffyrdd, i Gasnewydd yr aeth y cynnyrch hwnnw yn ei grynswth. Fodd bynnag, yn 1843 datganodd yr ail Ardalydd Bute yn groyw: ‘Mae’n rheol bendant gennyf i beidio caniatáu cludo i Gasnewydd unrhyw nwyddau y gellir eu cludo i Gaerdydd.’14 Dechreuodd gynllunio Rheilffordd Cwm Rhymni, gwaith a gwblhawyd, wedi ei farw yn 1848, gan ymddiriedolwyr ei fab ifanc. Y mae agor Rheilffordd Cwm Rhymni yn 1854 yn dynodi yr union flwyddyn pan enillodd Caerdydd y blaen ar Gasnewydd. Torrwyd monopoli Caerdydd ar fasnach ei chefnfro yn ddramatig gydag agor Doc a Rheilffordd y Barri yn 1889. Ond ar y cychwyn, o leiaf, ni chafodd agor y Barri ddim effaith o gwbl ar y cysylltiadau rhwng Caerdydd a Chwm Rhymni, ac yn y 1890au, o’r cwm hwnnw y daeth bron traean y glo a allforiwyd o Gaerdydd. Menter y Butiaid yng Nghwm Rhymni, felly, a achubodd ddociau Caerdydd rhag mynd ar eu gwaered o ganlyniad i’r datblygiadau yn y Barri. Ymhellach, er i’r Barri yn 1901 ddisodli Caerdydd fel prif borthladd glo’r byd, yr oedd blaengarwch y Butiaid wedi peri i Gaerdydd fod yn gwbl sicr ei lle ar binacl hierarchaeth drefol y deheudir. O ganlyniad, ni symudodd yr un perchennog llongau na’r un allforwr glo i’r Barri. Yn gynyddol, aeth y swyddi isel eu cyflog yn ymwneud â chludo glo i’r Barri, ond yng Nghaerdydd yr arhosodd – ac y cynyddodd – y swyddi bras eu cyflog yn ymwneud â’r agweddau cyllidol, clerigol, cyfreithiol ac yswiriannol y gwaith o allforio glo.15
Erbyn y 1870au, yr oedd trigolion Caerdydd yn cael eu gwefreiddio gan dwf rhyfeddol eu tref. Dyna’r degawd, a dyfynnu Gwyn Alfred Williams, ‘pan drawsffurfiwyd Caerdydd o fod yn gyfrifdy i fod yn gymuned’.16 Eto i gyd, er gwaethaf y twf, doedd Caerdydd ond yn ddegfed ar hugain o ran maint ymhlith trefi a dinasoedd Prydain. Y 1870au – y degawd pan y daeth yn amlwg mai Caerdydd oedd, ac a fyddai, y ganolfan drefol fwyaf yng Nghymru – oedd y degawd pan benderfynodd ei thrigolion fod mwy o fri mewn bod ar y brig yng Nghymru na bod ond yn un ymhlith nifer o drefi sylweddol Prydain. Er bod 30 y cant o’i phoblogaeth, yn 1871, wedi’u geni yn Lloegr – ffaith a achosodd i lawer yng Nghymru, yn arbennig yn Abertawe, i bortreadu Caerdydd fel lle hanfodol Seisnig – rhaid pwysleisio bod pob degawd, o flwyddyn gynta’r dystiolaeth ar y pwnc, wedi cofnodi bod gan Gaerdydd fwyafrif a anwyd yng
13 William Thompson at William Crawshay, 27 Ionawr 1825 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Papurau Cyfarthfa, 1). 14 Yr ail Ardalydd Bute at E. P. Richards, 28 Ionawr 1843 (Archifdy Morgannwg D/DA 27). 15 Gweler yr ystadegau yn J. Davies, Cardiff, A pocket guide (Caerdydd, 2002) tt.60–61, 68.
Gweler hefyd M. J. Daunton, Coal Metropolis, Cardiff 1870–1914 (Caerl&Mac223;r, 1977). 16 G. A. Williams, ‘Odd man in’, yn G. Jones a M. Quinn(gol.), Fountains of Praise, University College, Cardiff, 1883–1983 (Caerdydd, 1983) t.8.
Nghymru. Y flwyddyn 1873 yw’r flwyddyn gyntaf pan geir cyfeiriad at Gaerdydd fel ‘metropolis’ Cymru, syniad a fyddai’n apelio fwyfwy at drigolion y dref, a syniad a fyddai – pan roddwyd sylwedd iddo yn yr ugeinfed ganrif – yn ganolog i’w ffyniant a’i hunaniaeth. Wrth i’r dre ddod yn hanfodol Saesneg o ran iaith, bu’n rhaid i’r metropolis Cymreig greu diffiniad newydd o Gymreictod. Fel y dadleua’r hanesydd disglair hwnnw, Neil Evans, y mae gwladgarwch Cymreig a fynegir trwy’r Saesneg – sef y ffurf amlycaf ar wladgarwch Cymreig erbyn hyn

yn ffenomen a ddyfeisiwyd yng Nghaerdydd.17 Rhoddwyd prawf ar hawl Caerdydd i gael ei hystyried yn brif dref Cymru

neu o leiaf deheudir Cymru – yn 1882, adeg y ddadl yngl&Mac223;n â lleoliad colegprifysgol y de. Yn ei chais aflwyddiannus am y coleg, nododd Abertawe bod 290,000 o bobl yn byw o fewn pum milltir ar hugain i’r dref. Os oedd Sir Fynwy ddim yn cael ei hystyried yn rhan o Gymru – ac yn y 1880au, doedd hi ddim gan amlaf (y pryd hwnnw, er enghraifft, doedd mesur cau tafarndai ar y Sul ddim yn weithredol yno) – tua 290,000 o drigolion Cymru oedd yn byw o fewn pum milltir ar hugain i Gaerdydd hefyd. Er mwyn pwysleisio ei rhagoriaeth o safbwynt poblogaeth, bu’n rhaid i Gaerdydd ddadlau bod Sir Fynwy yng Nghymru; o dderbyn hynny, roedd 470,000 o drigolion Cymru yn byw o fewn pum milltir ar hugain i Gaerdydd. Dyna’r ddadl a enillodd i Gaerdydd goleg prifysgol y de. Felly y darfu i angen Caerdydd ddiogelu integriti tiriogaethol Cymru.18

Y cyfnod rhwng 1884, blwyddyn agor Coleg Prifysgol Caerdydd, a chychwyn y dirwasgiad ddechrau ugeiniau’r ugeinfed ganrif oedd anterth Caerdydd – neu efallai anterth cyntaf Caerdydd. (Mae’r ail anterth, greda’i, yn digwydd nawr.) Yn yr 1890au, Porthladd Caerdydd – sef dociau Bute ynghyd â Phenarth a’r Barri – oedd porthladd mwyaf y byd o safbwynt swmp ei allforion. Y glo a ddeilliai ohono a gynhaliai’r llynges Brydeinig, ac yr oedd yn ganolog i economïau Ffrainc, Sbaen, yr Eidal, Chile, Brazil, Ariannin a llu
o wledydd eraill. A maes glo’r de yn darddle chwarter y fasnach ryngwladol mewn ffynonellau gwres ac ynni, yr oedd gan borthladdoedd Môr Hafren ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr un amlygrwydd yn economi’r byd ag a feddai Culfor Persia ganrif yn ddiweddarach. Yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd y cytunwyd ar fargen gynta’r byd yn ymwneud â thros filiwn o bunnau. Wrth ysgrifennu’r ddrama Americanaidd gyntaf i ennill bri rhyngwladol, darfu i Eugene O’Neill droi at Gaerdydd wrth ddewis teitl cyffrous i’w ddrama – Bound East for Cardiff.

Un o nodweddion amlycaf Caerdydd yn ei hanterth cyntaf oedd ei natur gosmopolitan. Yn 1911, roedd pum mil o’i thrigolion wedi’u geni yn y
17 N. Evans, ‘The Welsh Victorian City: the middle class and civic and national consciousness in Cardiff, 1850–1914’, Cylchgrawn Hanes Cymru, XII, 3 (1985).
18 G. W. Roderick, ‘A new college for south Wales: Cardiff versus Swansea, a battle of the sites, 1881–83’, Trafodion y Cymmrodorion, y gyfres newydd, 6 (1999).
gwledydd y byddem heddiw yn eu galw yn wledydd y trydydd byd, ffaith a oedd yn peri i Gaerdydd, yn y flwyddyn honno, fod yn ail dim ond i Lundain yn hynny o beth. Roedden nhw’n cynnwys pobl o India’r Gorllewin, Affrica, Tsieina, India a’r Dwyrain Canol. Trigai aelodau 57 o genhedloedd yn Butetown, gan ganiatáu i ddehonglwr y gymuned unigryw honno, Neil Sinclair, ddatgan: ‘Fe fedrech weld y byd i gyd mewn un filltir sgwâr’.19

Gwelwyd uchafbwynt anterth cyntaf Caerdydd yn 1905, pan gafodd statws dinas – y cyntaf o’r blwyddiannau yr ydym yn coffáu heno.Ym mis Hydref 1905, derbyniodd maer Caerdydd, Robert Hughes, neges oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref yn datgan mai dymuniad y brenin oedd cydnabod Caerdydd fel dinas, a chydnabod ei maer fel Arglwydd Faer. Yr oedd y datganiad yn ganlyniad uniongyrchol y cysyniad o fetropolis Cymru. Yn 1905, yr oedd ym Mhrydain o leiaf ddwsin o drefi a oedd yn rhagori ar Gaerdydd o safbwynt nifer eu trigolion, ac yr oedd pob un ohonynt ag uchelgais i ennill statws dinas. Daw’r syniad o fetropolis Cymru yn gwbl amlwg yn yr ohebiaeth ar y mater rhwng aelodau llywodraeth Geidwadol 1905. Wrth gysylltu â’i ysgrifennydd preifat, nododd y prif weinidog, A. J. Balfour: ‘Ar gorn ei haeddiant fel dinas Brydeinig, does gan Gaerdydd ddim hawl o gwbl, ac os ydym yn mynd i gael Arglwydd Faer yng Nghaerdydd ar unrhyw sail ac eithrio sail Gymreig, fe fyddem yn wynebu ceisiadau o bob tref a chanddi boblogaeth sylweddol.’ Cytunodd ei ysgrifennydd preifat, a nododd bod y cais wedi’i wneud, nid yn gymaint ar sail maintioli Caerdydd, ond yn hytrach ar sail ei safle arbennig fel tref yng Nghymru. Yr oedd gan y penderfyniad gryn dipyn i’w wneud â gwleidyddiaeth y Blaid Geidwadol, a oedd â mwy o gefnogaeth yng Nghaerdydd nag yr oedd ganddi yn odid un lle arall yng Nghymru; roedd yn ddyledus yn rhannol hefyd i gefnogaeth yr Arglwydd Edmund Talbot, chwip y llywodraeth ac ymddiriedolwr ei gefnder, y pedwerydd Ardalydd Bute.20

A hithau wedi ennill statws dinas, aeth Caerdydd ati i geisio ennill statws prifddinas Cymru. Wrth gynllunio Parc Cathays fel canolfan deilwng o’r ddinas newydd, achubwyd ar y cyfle i bwysleisio rôl Caerdydd fel metropolis Cymru – gyda’r ddraig ardderchog ar gopa cromen neuadd y ddinas, er enghraifft, a’r oriel i enwogion Cymru yn ei neuadd marmor. A hithau eisoes yn gartref i goleg prifysgol y de, yr oedd Caerdydd erbyn 1914 hefyd wedi dod yn gartref i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, cofrestrfa Prifysgol Cymru a chnewyllyn yr hyn a fyddai’n Ysgol Feddygol Cymru. Yr oedd y sefydliadau hyn yn symbolau o Gymru atgyfodol ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, ffaith eironig braidd, oherwydd – fel y gwelsom

– yn y drydedd ganrif ar ddeg, yr oedd Caerdydd yn dref yr oedd angen eihamddiffyn rhag bod yn rhan o Gymru atgyfodol. Dyma dystiolaeth bod
19 N. M. C. Sinclair, The Tiger Bay Story (Caerdydd, 1993) t.129. 20 E. W. Evans, ‘Cardiff becomes a city’, Morgannwg IX (1965).

cymod gwirioneddol hanesyddol wedi digwydd. Roedd honno yn ffaith yr oedd David Lloyd George yn ymwybodol ohoni adeg ei drafodaethau gydag arweinwyr gweriniaethol Iwerddon. ‘Y mae cyfran helaeth o drigolion Caerdydd’, dywedodd wrth Michael Collins yn 1921, ‘o leiaf mor wahanol i drigolion gweddill Cymru ag ydyw Protestaniaid Ulster i drigolion gweddill Iwerddon…Pan oeddwn yn cychwyn mewn bywyd cyhoeddus…yr oedd pobl Caerdydd yn brin eu cydymdeimlad â dyheadau Cymreig…ond, trwy bolisi o berswâd, enillwyd eu cydymdeimlad, ac erbyn hyn y mae Caerdydd yn gartref i nifer o sefydliadau cenedlaethol Cymru.’21

Wrth i’r ugeinfed ganrif fynd rhagddi, sicrhaodd Caerdydd fwy a mwy o sefydliadau cenedlaethol. Yn 1916, penodwyd y cyntaf o archesgobion Caerdydd – yntau yn ei hanfod yn arweinydd Catholigion Rhufeinig Cymru. Wedi datgysylltiad yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn 1920, yng Nghaerdydd ac ym Mhenarth gerllaw y lleolwyd prif swyddfeydd yr Eglwys yng Nghymru. Yn 1923, daeth Caerdydd yn gartref i un o wyth prif orsaf darlledu Prydain, gorsaf a ddaeth yn 1937 yn bencadlys gwasanaeth Cymreig y BBC – datblygiad a alluogodd y ddinas i ddod yn ganolfan gyfryngol o bwys rhyngwladol.22 Yn 1928, yng Nghaerdydd y codwyd Cofeb Genedlaethol Cymru i feirw’r Rhyfel Mawr, ac yn 1938, yno yr agorwyd y Deml Heddwch, sef cysegrfa Cymru i’r mudiad heddwch. Enillodd Caerdydd gydnabyddiaeth gynyddol fel canolfan chwaraeon yng Nghymru. Er i ambell gêm rygbi ryngwladol gael ei chynnal yn Abertawe – 1954 oedd y flwyddyn olaf i hynny ddigwydd – enillodd Caerdydd yn y pen draw ddominyddiaeth lwyr.
Yn y blynyddoedd yn union wedi’r Ail Ryfel Byd, darfu i raglen wladoli’r llywodraeth Lafur ychwanegu at statws Caerdydd, wrth i’r ddinas ddod yn bencadlys Bwrdd Nwy Cymru, Bwrdd Ysbytai Cymru, Bwrdd Trydan De Cymru a Rhanbarth Orllewinol y Bwrdd Glo. Darfu’r llywodraeth Geidwadol a etholwyd yn 1951 ddilyn ei hesiampl, wrth sefydlu yng Nghaerdydd swyddfa i’r newydd-beth hwnnw, y Gweinidog dros Faterion Cymreig.

Felly, erbyn dechrau pumdegau’r ugeinfed ganrif, doedd dim amheuaeth mai Caerdydd oedd prifddinas de facto Cymru. Eto i gyd, doedd fawr o awydd gan y rheini mewn awdurdod i’w chydnabod fel prifddinas de jure, yn rhannol oherwydd amheuaeth yngl&Mac223;n ag union swyddogaeth prifddinas gwlad a oedd yn amddifad o lywodraeth unigryw iddi hi ei hun, ac yn rhannol oherwydd ofn digio mannau eraill a chanddynt uchelgais i fod yn brifddinas. Yr oedd arweinwyr y Blaid Lafur yn credu mai pwysicach o lawer – yn wyneb y datddiwydiannu a oedd yn dod i ran Caerdydd – oedd cryfhau seiliau diwydiannol y ddinas yn hytrach na mynd ati i wneud newidiadau cosmetig i’w statws. Yr oedd James Callaghan, aelod seneddol de-ddwyrain Caerdydd,

21 K. Middlemas (gol.), Thomas Jones, Whitehall Diary III, Ireland, 1918–25 (Rhydychen, 1971), tt.128–9.
22 J. Davies, Broadcasting and the BBC in Wales (Caerdydd, 1994).

yn arbennig o watwarus. ‘Byddai ychydig yn rhagor o longau yn dod i’r dociau yng Nghaerdydd’, meddai, ‘yn bwysicach o lawer nag unrhyw dincian gyda’i theitl.’23
Does ryfedd felly mai’r Blaid Geidwadol a oedd yn gyfrifol am yr ail flwyddiant yr ydym yn ei dathlu heno – fel yr oedd hi am y gyntaf. Ar 20 Rhagfyr 1955, datganodd yr Ysgrifennydd Cartref – yn gwbl addas, y Cymro, Gwilym Lloyd George – bod Caerdydd i’w chydnabod yn swyddogol fel prifddinas Cymru.24 Fel yn 1905, yr oedd y gydnabyddiaeth yn rhannol yn wobr am gefnogaeth Caerdydd i’r Blaid Geidwadol. Y ddinas oedd yr unig ganolfan drefol o bwys yng Nghymru a chanddi fwyafrif o gynghorwyr Ceidwadol, ac yn etholiad cyffredinol 1955, pleidleisiodd dros hanner etholwyr Caerdydd i ymgeiswyr Ceidwadol.
Oddi ar 1955, y mae ei statws fel prifddinas wedi dod yn fwyfwy allweddol i ffyniant a hunaniaeth Caerdydd.Yn 1958, Cymru oedd lleoliad Gemau’r Gymanwlad, ac, yn naturiol, yng Nghaerdydd y cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r gornestau. Yn 1964, daeth Caerdydd yn gartref i’r Swyddfa Gymreig, datblygiad a achosodd iddi hi ddod yn bencadlys llu o sefydliadau yn amrywio

o Gyngor Celfyddydau Cymru i TUC Cymru, o Sefydliad Chwaraeon Cymru i Sianel Pedwar Cymru. Gyda Chymru, yn 1999, yn lleoliad Cwpan Rygbi’r Byd, gwaddolwyd Caerdydd â’r rhyfeddod hwnnw, Stadiwm y Mileniwm. Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, gwaddolwyd hi ymhellach gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac adeilad Cynulliad Cymru, adeiladau a leolwyd ar lannau’r llyn a grewyd wrth argáu aberoedd Afonydd Taf ac Elai. Y llyn, efallai, yw ffenomen ryfeddaf y Gaerdydd sydd ohoni, gan fod y ddinas, sy’n llwyr ddyledus am ei bodolaeth i’w chysylltiadau â’r môr, bellach wedi troi ei chefn ar dd&Mac249;r hallt.

Erbyn hyn, y mae ein prifddinas ni ymhlith y mwyaf deniadol, deinamig a bywadwy o holl brifddinasoedd Ewrop. Wrth gwrs, does dim modd ei chymharu â’r amlycaf o’r prifddinasoedd hynny – Llundain, Paris, Rhufain, Berlin a Fienna – nac ychwaith, efallai, o ddinasoedd yr ail reng, Prag, er enghraifft, neu Barcelona neu Gaeredin, ond o ystyried y drydedd reng – Vittoria-Gasteix, prifddinas Gwlad y Basg, er enghraifft, neu Bratislava, prifddinas Slofacia, neu Ljubljana, prifddinas Slofenia, neu Sagreb, prifddinas Croatia – Caerdydd sy’n rhagori o ddigon. Yr oedd yr Apostol Paul yn ymhyfrydu ei fod yn ddinesydd Tarsws, ‘dinas nid di-nod’. Gadewch i ni felly goffáu 1905, y flwyddyn pan ddaeth trigolion Caerdydd yn ddinasyddion dinas nid di-nod. Ac, yn bwysicach na hynny, gadewch i ni goffáu 1955 pan ddaeth trigolion Caerdydd yn ddinasyddion prifddinas cenedl nid di-nod.

23 Western Mail, 21 Rhagfyr 1956.

24 Am y datganiad swta, gweler Parliamentary Debates, pumed gyfres, cyf. 547 (1955–6), Atebion ysgrifenedig, tt.210–11.

This lecture, delivered at Cardiff’s City Hall on 22 April 2005, commemorates two anniversaries in the history of Cardiff – its recognition as a city in 1905 and its recognition as the capital of Wales in 1955. The largest town in Wales in 1281, Cardiff subsequently stagnated until the opening of the Glamorganshire Canal in the 1790s. The lecture concentrates upon the factors which caused Cardiff’s rapid growth in the nineteenth century, growth which led to its re-emergence in the late 1860s as the largest town in Wales. Particular emphasis is placed upon the role of the Bute estate, especially upon its pioneering dock-building venture and its use of coal leases and railway promotion to expand Cardiff’s hinterland at the expense of rival ports. Although originally an alien plantation which had to be protected from a resurgent Wales, the insistence of its inhabitants, from the 1870s onwards, that it was ‘the Welsh metropolis’ caused it eventually to become a powerful symbol of a resurgent Wales. Wholly dependent for its growth on its links with the sea, it is ironic that Cardiff has, by now, virtually severed its links with salt water.