Iorwerth Peate a Diwylliant Gwerin
gan Trefor M.Owen MA,FSA

Braint ac anrhydedd yw cael fy ngwahodd i draddodi darlith Syr Thomas Parry-Williams yn enwedig ar achlysur yr Eisteddfod Genedlaethol y bu ef yn gysylltiedig â hi dros gyfnod mor faith ac yn disgleirio fel enillydd, beirniad a llywydd yn ei dro. Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, adeg Eisteddfod Genedlaethol y Barri, ac yntau ’n Llywydd yr Anrhydeddus Gymdeithas y pryd hwnnw, cadeiriodd Syr Thomas ddarlith gan Dr Iorwerth Peate ar y tes- tun ‘Yr Amgueddfa Werin a Bywyd Gymru’. Fel y nodwyd ar y pryd yr oedd yr Amgueddfa Werin newydd ddod i ’w hoed gan iddi gael ei sefydlu yn 1947; a’r flwyddyn ganlynol, hanner can mlynedd yn ôl i eleni,ar y cyntaf o Orffennaf 1948, agorwyd ei phyrth i ’r cyhoedd am y tro cyntaf. Y mae llu o weithgareddau – o ail--greu brwydr Sain Ffagan, a ymladdwyd dri chant a hanner o flynyddoedd yn ôl, i gymanfa ganu ac eisteddfod – wedi eu trefnu eleni drwy gydol y flwyddyn i ddathlu’r achlysur. O gofio’r hanner can- mlwyddiant, tybiais y byddai ’n briodol i graffu ar un o syniadau craidd ei sylfaenydd, sef diwylliant gwerin, syniad a oedd i lywio’r ffordd yr oedd Iorwerth Peate yn dehongli amcan a datblygiad y sefydliad cenedlaethol newydd hwnnw yn Sain Ffagan, y cyntaf o’i fath ym Mhrydain, fel yr ymffrostiai. Nid wyf am sôn am hanes y sefydliad hwnnw gan fod yr Amgueddfa ei hun yn cyhoeddi cyfrol ar y pwnc. Nid wyf am drafod y dyn ei hun ychwaith, namyn dweud ei fod yn gawr o ddyn ar lawer cyfrif. ‘Meistress Williams-Ellis,I have brought the biggest man in Wales to see you’, meddai Bob Owen, Croesor, wrth ei gyflwyno i wraig Clough Williams-Ellis, y pensaer.

Yr oedd hefyd, fel llawer ohonom, yn glwstwr o baradocsau – bardd ceidwadol ond radical gwleidyddol a chrefyddol; heddychwr milwriaethus; cwmnïwr diddan ond hefyd gwr a siaradai heb flewyn ar ei dafod; daearyddwr na chredai mewn defnyddio mapiau; poenydiwr Cymraeg gwael ar radio a theledu, ond un na allai ddioddef Cymraeg Byw glastwraidd; dadleuwr penderfynol a di-ildio, a beirniad llym a didostur ond hefyd un a ysgrifennai i gefnogi a chysuro’r sawl a feirniadwyd gan eraill; pleidiwr rhesymeg,ond un a ddadleuai weithiau ad hominem ac na ellid bod yn siwr y byddai ei ymateb yn hollol resymegol oherwydd ei deimladau cryfion ar y mater dan sylw, ac yr oedd ganddo deimladau a daliadau cryfion ar lawer pwnc. Cas ganddo, er enghraifft, glywed y gair Saesneg ‘celtic’ yn cael ei ynganu fel yn achos y tîm pêl--droed enwog o Glasgow; o sillebu’r gair i ddechrau efo’r llythyren ‘k’, fel y gwnaeth yn The Welsh House, fe allai orfodi ei ddarllenwyr i fabwysiadu’r dull a oedd yn gywir yn ei farn ef. Mewn gair, gwr eithriadol; ac nid yw’n rhyfedd fod math o lên gwerin yn dechrau tyfu o’i gwmpas, fel y gwelwch os darllenwch y rhi- fyn cyfredol o’r cylchgrawn Llafar Gwlad. Yr oedd hefyd, wrth gwrs, ymh- lith llawer o bethau eraill yn brif arloeswr amgueddfeydd gwerin ym Mhrydain ac yn arloeswr hefyd ym maes diwylliant gwerin. Â ’r olaf, yn unig, y bydd a wnelo’r ddarlith hon y prynhawn yma.

Beth oedd o’n ei olygu wrth ddiwylliant gwerin? O ble y cafodd o’r syniad? Sut y datblygodd y syniad o ddiwylliant gwerin yn ei feddwl dros y blynyddoedd? A oedd diffygion yn y syniad? A sut y gwireddwyd y syniad yn yr Amgueddfa Wer in? Dyna rai o’r cwestiynau y ceisiaf eu hateb y prynhawn yma. Un mlynedd ar ddeg cyn sefydlu’r Amgueddfa Werin, yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937, yr oedd Iorwerth Peate wedi traddodi darlith i’r Anrhydeddus Gymdeithas ar y testun ‘Diwylliant Gwerin’ – term yr oedd ef ei hun wedi bod yn gyfrifol am ei fathu,hyd y gallaf ddarganfod – a daliodd ar y cyfle yn y ddarlith honno i osod allan ei syniadau fel yr oeddynt wedi dat- blygu yn ystod cyfnod o ddeng mlynedd fel aelod o staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Treuliodd y pum mlynedd cyntaf o’r rhain yn yr Adran Archaeoleg, ac wedyn, o 1932 mewn Is-Adran newydd Diwylliant a Diwydiannau Gwerin a osodwyd dan ei ofal o fewn yr Adran honno, nes tyfu ohoni’n Adran gyflawn annibynnol yn 1936 gydag ef fel ei Cheidwad a Ffransis Payne yn gynorthwy-ydd ac yna’n Is Geidwad. Ymgais i gyflwyno credentials yr Adran bywyd gwerin newydd hon yn yr Amgueddfa Genedlaethol oedd ei ddarlith i’r Cymmrodorion yn yr Eisteddfod honno, ac yn hyn o beth nid oedd yn annhebyg i ddarlith sefydlu athro yn ei gadair mewn prifysgol pryd y ceir cyfle i amlinellu maes gweithgarwch ei adran, maes a fyddai yn yr achos hwn yn caniatáu i’r Adran newydd sefyll ar ei thraed ei hun ochr yn ochr ag Adrannau eraill yr Amgueddfa Genedlaethol a oedd wedi hen ennill eu plwyf...

Continued...