‘O! Tyn y Gorchudd’: Golwg ar fywyd a gwaith Hugh Jones, Maesglasau*

gan Angharad Price, DPhil

Cyn mynd ati i ysgrifennu’r gyfrol O! Tyn y Gorchudd am hanes teulu fy mam yng nghwm Maesglasau, dwy ffaith foel a wyddwn am yr emynydd, Hugh Jones: yn gyntaf, iddo gael ei fagu yng nghwm Maesglasau yn negawdau olaf y ddeunawfed ganrif; ac yn ail iddo gyfansoddi emyn enwog a agorai â’r geiriau, ‘O! tyn y gorchudd yn y mynydd hyn’. Wrth ymchwilio i hanes cwm Maesglasau yn ardal Dinas Mawddwy deuthum i ddysgu mwy am Hugh Jones, a dod i amgyffred bod yma lenor toreithiog ac angerddol sy’n teilyngu mwy o’n sylw cyn iddo fynd yn angof yn niwloedd mynych y cwm a roddodd ei enw iddo.
Dyma ymgais, felly, i ‘dynnu’r gorchudd’ oddi ar fywyd a gwaith Hugh Jones, Maesglasau, gan roi blas ar ei fywyd helbulus, ac ar ei ddawn lenyddol ddiamheuol a gynhyrchodd nid yn unig yr ‘emyn gorau yn yr iaith Gymraeg’, chwedl O.M. Edwards, ond hefyd un clasur rhyddiaith sydd heb ei debyg yn llenyddiaeth Gymraeg diwedd y ddeunawfed ganrif.
Ychydig iawn sydd wedi ei ysgrifennu am Hugh Jones, ond rwyf wedi dibynnu’n helaeth ar un erthygl werthfawr o waith Gildas Tibbott,1 yn ogystal â nifer o erthyglau h&Mac223;n, y mwyafrif wedi eu seilio ar sgyrsiau gyda rhai a adwaenai Hugh Jones, neu a glywsai hanesion amdano.2

Yn ôl yr wybodaeth a gasglwyd gan Gildas Tibbott, ganed Hugh Jones yn 1749, y pumed o naw o blant William ac Elizabeth Jones a oedd wedi symud o Gwm Glan Mynach ym mhlwyf Mallwyd i ffermio yng nghwm Maesglasau yn yr un plwyf. Fe’i bedyddiwyd yn eglwys Mallwyd ar y pedwerydd ar hugain o Dachwedd, fel y gwelir o gofnod yng nghofrestr plwyf Mallwyd y flwyddyn honno. Roedd y teulu, a berthynai i ddosbarth y ‘mân rydd-ddeiliaid’, yn ddigon cysurus eu byd, a sicrhaodd y rhieni fod y plant yn cael addysg dda.
Roedd curad dysgedig yn eglwys Mallwyd ar y pryd, a phan ddaeth y plant yn ddigon hen i allu cerdded y pedair milltir o Faesglasau i Fallwyd, a’r pedair milltir yn ôl bob dydd, ato ef yr anfonwyd y plant i ddysgu darllen ac ysgrifennu a rhifyddiaeth. O weld awch y bachgen am ddysg, mae’n bosibl i’r curad ym Mallwyd roi benthyg rhai o’i lyfrau i Hugh Jones, oherwydd mae lle i gredu ei fod wedi darllen yn eang yn ystod ei ieuenctid, a bod ganddo ryw grap ar Ladin a Groeg, yn ogystal â gallu Saesneg yn dda. Roedd hefyd, yn ôl un ffynhonnell, wedi dysgu mesur tir yn fanwl gan fesurwyr tir y daethai ar eu traws yn y cwm.3

Yn sicr, cafodd  addysg well na llawer o’i gyfoedion, ond fel y pwysleisia Tibbott, ‘nid rhyw lyfrbryf anghymdeithasol, meudwyaidd mo Hugh Jones, eithr llanc siriol, nwyfus, ac ysgafn-galon’.4 Ymddiddorai mewn cerddoriaeth. Roedd yn gerddor medrus, a chanddo ‘lais ystwyth, mwyn, hynod am ei bereidd-dra’.5 Cafodd addysg gerddorol dan y cerddor medrus o Ddolgellau, John Williams (neu ‘Ioan Rhagfyr’), awdur y tonau ‘Cemmaes’, ‘Dyfroedd Siloah’ a ‘Sabbath’. Yn wir, daeth y ddau yn gyfeillion da, a cheir sawl hanes amdanynt yn cyd-ganu. Yn ôl Evan Davies, a ysgrifennai yn Y Geninen:

Pan y cyfarfyddent â’u gilydd â thônau newyddion ganddynt, canent o ddechreunos hyd oleuddydd, heb amgyffred yr oriau meithion ond fel ychydig eiliadau.6 

Yr un modd adroddodd Morris Davies yn Y Traethodydd:

Pan gyfarfyddent â’u gilydd, byddent yn wastad mewn hwyl, ac wrth eu bôdd; ac os dygwyddai tôn gânu yn dda, dywedent, “Dyna hi yn ffrïo”[...].7

Cyfansoddodd Hugh Jones yntau donau ei hun, er enghraifft yr emyn dôn, ‘Capel Cynon’, ac mae darn arall o gerddoriaeth o’i eiddo, gosodiad o salm 57, wedi’i gofnodi mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol.8

Ymhellach, sonnir amdano’n crwydro’r caeau ben bore bach yn bugeilio, gan dorri allan i ganu yn ddigymell. Ac yn y cyfnod hwn yn ei ieuenctid cyfansoddai benillion a rhigymau smala yn sôn am ddigwyddiadau dyddiol ar y fferm.
Ceir disgrifiad ohono o ran pryd a gwedd gan ‘Tegwyn’ yn y cylchgrawn Cymru, a lwyddodd (rywsut neu’i gilydd) i siarad ag amryw ym Mawddwy a fu yn yr ysgol gyda Hugh Jones:


Roedd Hugh Jones o ymddangosiad yn ddyn iach, gwridog, cryno, a glanwaith yn ei wisgiad, o daldra canolig, yn llydan a chydnerth... Gwledig oedd yr olwg arno oddidraw; ni fuasai yn eich taro fel un ymarferai â’r ysgrifbin. Ond ni fuasai raid i chwi graffu llawer arno yn ei ymyl i ganfod ei fod yn llawn o feddwl, ac mai rhodfeydd meddwl ac ysbryd oedd ei hoff rodfeydd.9

Yn y cyfnod hwn cyfansoddodd Hugh Jones anterliwtiau i’w perfformio gan gwmni o bobl ifanc yn y gymdogaeth, dan ei arweiniad ef. Yn anffodus, nid argraffwyd yr un o’r gweithiau hyn, er eu bod yn dal i’w clywed ar lafar gwlad flynyddoedd yn ddiweddarach. Ond buan y darostyngwyd ffurf yr anterliwt, er gwaethaf dawn y cyfansoddwr, fel y gwelir o eiriau Evan Jones, Trefriw am olion anterliwtiau Hugh Jones:

Nid yw y darnau a glywsom, ar lafar gwlad, o rai ohonynt, yn gymaint o ganmoliaeth i foesau ac arferion y wlad ag ydynt o anrhydedd i ddawn ac athrylith y prydydd.10

‘Nid hir y bu yn dilyn ffordd gwagedd’, ymhyfryda Evan Jones ymhellach,11 a’r gwir amdani i Hugh Jones losgi pob copi o’i anterliwtiau wedi iddo brofi dylanwad y Diwygiad Methodistaidd.
Ychydig a wyddom am amgylchiadau’r dröedigaeth honno, ond awgrymir iddi ddigwydd pan oedd Hugh Jones oddeutu ugain oed (sef tua 1769), ac i aelodau eraill ei deulu gael eu troi tua’r un pryd. Roedd achosion Methodistaidd eisoes wedi eu sefydlu yn y cyffiniau (er enghraifft yn ardal Llanbrynmair a Darowen), ers ymweliadau Howell Harris â’r mannau hynny, ac mae’n amlwg fod dylanwad y Diwygiad yn graddol ledaenu tua Meirionnydd erbyn cyfnod llencyndod Hugh Jones.
Yn fuan wedi ei dröedigaeth, tua’r flwyddyn 1772, aeth Hugh Jones i Lundain, fel llawer o Gymry ar y pryd, gan aros yno rhwng dwy a phedair blynedd. Cafodd swydd ddysgu yn y ddinas, a dyma’r adeg yr aeth Hugh Jones i gyhoeddi ei gyfrol gyntaf. Enw’r gyfrol oedd Cydymaith yr Hwsmon, ac fe’i cyhoeddwyd yn 1774. Yn ei ragymadrodd sonia Hugh Jones iddo dreulio yr ychydig oriau segur a oedd ganddo ar y gyfrol hon, ac nad gorchwyl hawdd oedd ysgrifennu ynghanol dwndwr Llundain:

Hefyd rwy’n addef fod y fangre lle rwy’n awr yn preswylio yn lle mwy anghyfleus i ymarfer fel hon, na phe buaswn yn cartrefu mewn gwlad ddistaw, allan o swn a chythryfwl y byd.12

Cyfeiria hefyd at anfanteision argraffu’r gwaith yn Llundain, gan bwysleisio, ‘gan nad oedd y Printiwr yn deall Cymraeg mewn rhai manneu y gwelir y naill lythyren wedi ei gosod yn lle’r llall’.13 Ategir hyn yn ddiweddarach pan geir ‘y llyfr drosto’i hun’ yn annerch y darllenydd, gan gwyno am arafwch yr argraffydd Llundeinig wrth ei waith ac yn ceisio rhagweld y derbyniad a gâi’r llyfr wedi gadael y ddinas a dychwelyd at ddarllenwyr Cymraeg Gwynedd:

Wel dymma fi’n dywad yn newydd fy ngwisgiad,
Nis gwn i drwy’r hollwlad pwy gariad a gaf;
Rhai ddywed yn ddiau, na feddaf wan foddau,
Ond hugan go denau am danaf.

Nid oes genni ond gadel, i bawb ddweud ei chwedel,
Ni fynnwn i ffarwel roi ’mrafel i mrô;
Gobeithio y ca i orwedd, ym mynwes rhai mwynedd,
Yng Ngwynedd ond peredd ympirio.

Mi fum yn anniben yn dyfod o Lunden,
Y Saeson ni fynnen fy nghorphen ô Ngwasg;
Ond rhydd-did pan gefais, yn gynta ag y gellais,
I Gymru y pwyntiais o’r Printwasg.14

Prin fod angen i Hugh Jones boeni ynghylch y derbyniad a gâi’r llyfr, ac yntau wedi sicrhau dros bedwar cant ac ugain o danysgrifwyr i dalu am gostau argraffu’r gyfrol, y mwyafrif ohonynt yn dod o ardal Dinas Mawddwy, gan gynnwys ei fam a’i dad, un chwaer a phump o’i frodyr!
Cyfrol o ryddiaith grefyddol yw Cydymaith yr Hwsmon sy’n defnyddio bywyd yr amaethwr, a darluniau o fyd natur, yn ddamhegion am y bywyd Cristnogol. Mae’n dilyn patrwm gweithiau Saesneg o’r cyfnod, megis Husbandry Spiritualized, gan John Flavel a gyhoeddwyd yn 1669, ond mae iddi hefyd ei harbenigrwydd Cymraeg, ac mae’n gyfrol gwbl wahanol i unrhyw ryddiaith Fethodistaidd arall a geir yn yr iaith Gymraeg. Yn sicr, mae’r rhyddiaith synhwyrus, syml, gain yn bleser i’w darllen, a gellid honni mai dyma un o glasuron coll rhyddiaith Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif.
Pan ddychwelodd Hugh Jones adref o Lundain tua 1776, dychwelodd yn gyntaf i fugeilio yng nghwm Maesglasau, a dod ymysg y rhai cyntaf i sefydlu achos y Methodistiaid ym Mallwyd, ac yn ysgrifennydd cyntaf y gymdeithas honno. Yna, tua 1782, penderfynodd ei rieni roi ei ran o’i etifeddiaeth iddo er mwyn iddo allu ei gynnal ei hun. Felly, gadawodd y fferm a rhentu ystafell ym Mallwyd er mwyn canolbwyntio ar lenydda. Digon mynachaidd oedd ei fywyd yn ystod y cyfnod hwn, yn ôl un sylwebydd:
Y mae yn gwneyd ei hun yn eunychiad am ei oes, ac yn ymwadu â phob mantais fydol, er cysegru ei hun i’r gwaith o wneyd ei genedl yn wybodus a dedwydd.15

Yn wir, rhwng 1776 ac 1798 cyhoeddodd Hugh Jones un ar hugain o lyfrau Cymraeg, a’r cyfan ar ei liwt ei hun. Cyfieithiadau o weithiau crefyddol poblogaidd yn Saesneg oedd mwyafrif y rhain, yn eu plith weithiau megis  ‘Afalau Aur i Bobl Ifeingc; a choron gogoniant i hen bobl’ (1782), a chyfieithiad o ddwy bregeth gan y Parchedig Matthew Mead a gyhoeddwyd yn 1789. Ceir hefyd gyfrol lai amlwg grefyddol sy’n adrodd ‘Hanes Daear Gryn ofnadwy, a Ddigwyddodd yn Itali, ac a barhaodd lawer o Ddyddiau, ym Mis Chwefror diweddaf, ne’s Llyngcu Dinas Messina, a llawer o Wledydd a Threfydd poblog’ (1783). Sonnir hefyd i Hugh Jones gyfansoddi llyfr arloesol ar rifyddiaeth yn Gymraeg tua diwedd y ganrif, a bod y gyfrol hon yn adnabyddus i drigolion Dinas Mawddwy ar y pryd; yn anffodus, ni fu’r gwerthiant y tu allan i’w fro enedigol yn ddigon i dalu costau argraffu’r gyfrol, ac mae olion y llyfr bellach wedi diflannu’n llwyr.16

Cyfansoddodd Hugh Jones weithiau llenyddol gwreiddiol yn y cyfnod hwn hefyd, gan gynnwys dwy gyfrol o gerddi, ac un traethawd gwleidyddol. Ei gyfrol gyntaf o gerddi oedd Gardd y Caniadau (1776), casgliad o ddwy ar hugain o garolau plygain a cherddi i’w canu ar alawon poblogaidd y dydd. Maent yn cynnwys marwnadau i unigolion lleol, cerdd i goffáu y gwynt mawr a gafwyd ym Meirion yn 1775, yn ogystal â chân i ofyn mochyn gan sgweier Peniarth, a honno, yn ôl y cyfarwyddyd, i’w chanu ar alaw’r Spanish Minuet. Mae yma gerdd hefyd ar ffurf ‘Ymddiddan rhwng Bonedd a Chyffredin’, lle gwelir Hugh Jones yn darlunio gormes y bonedd ar y werin, cerdd a arweiniodd J. J. Evans, braidd yn garlamus, efallai, i roi’r emynydd o Faesglasau yn yr un ffrwd radicalaidd â Richard Price, awdur Observations on Civil Liberty.17
Mewn cerdd arall yn y gyfrol hon gwelwn Hugh Jones yn condemnio’r rhyfel rhwng Prydain ac America, ac yn wir ryfel yn gyffredinol, er nad yw hyn yn ei rwystro rhag cynnwys yn yr un gyfrol gân i Filisia Sir Feirionnydd, ar y dôn ‘Monday Morning’, ac i gefnogi’r rhyfel yn erbyn Ffrainc.
Yn 1782 cyhoeddodd Hugh Jones draethawd gwleidyddol yn dwyn y teitl ‘Gair yn ei Amser’ (yr un teitl ag a ddefnyddiodd Thomas Jones, Dinbych am draethawd tebyg yn 1798), sydd yn priodoli trais yr oes a dioddefaint y wlad i bechodau dyn. Rhydd bwyslais arbennig ar gybydd-dod, balchder, meddwdod a seguryd ei gydwladwyr, ac mae gorthrwm y meistri tir ar y werin, ynghyd â phwyslais masnachwyr ar olud bydol, hefyd yn dod o dan y lach. Ond fel Thomas Jones, Dinbych, nid cymell y Cymry i frwydro dros eu hawliau a wna Hugh Jones, ond yn hytrach i ymddarostwng i’r awdurdodau a bod yn deyrngar i’r brenin. Pregethu ‘llonyddwch’ y mae, gan ddwyn perswâd ar y Cymry i fodloni ar eu tynged a ragbaratowyd iddynt gan Dduw.
Mae Hugh Jones ei hun wedi dod o dan lach haneswyr diweddar, megis R.T. Jenkins,18  am y geidwadaeth hon sydd i’w gweld hefyd yn ysgrifeniadau beirdd megis Dafydd Ddu Eryri a Gwallter Mechain. Ond pwysig yw nodi mai mynegi barn wleidyddol gyffredin y Methodistiaid ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif y mae Hugh Jones yma. Fel y pwysleisia J.E. Wynne Davies, mae Gair yn ei Amser yn ‘un o’r enghreifftiau cynharaf o ymateb Methodistiaeth i ddigwyddiadau’r dydd’.19 

Ymddangosodd ei ail gasgliad o farddoniaeth dros ugain mlynedd wedi’r gyntaf. Teitl hon oedd Hymnau Newyddion (1797) ac ynddi ceir dwy gerdd am y rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc sy’n debyg o ran ymagweddu gwleidyddol i Gair yn ei Amser. Yn y gyntaf o’r rhain, sef ‘Penhillion ar yr Amserau presennol, 1797’, geilw’r bardd ar y Brutaniaid i droi oddi wrth ‘ffordd y dialedd’ yn y byd, hynny yw, rhoi’r gorau i ryfela, a chanolbwyntio yn hytrach ar ymbaratoi at ddydd y Farn:

Ein pechod mawr, sy’n tynnu i lawr
Ein barnau’n awr o’r nen:
Tir Brydain rydd, tan gwmwl sydd;
Tra paro’n dydd, caethiwed prudd, -
Duw arnom bydd yn BEN!

Yn yr ail gerdd, sef ‘Gwersi o Erfyniad am Ddiogelwch i Frydain’, erfynnir ar i Dduw warchod Prydain nid yn unig rhag creulondeb rhyfel, ond hefyd rhag paganiaeth Ffrainc Gatholig, rhagfarn a welid yn gyffredin ymhlith llawer o Gymry’r cyfnod:

Agor ffordd i gyrrau Ffraingc,
I’r Efengyl beraidd gaingc;
Aed y sôn am Iesu Grist
Trwy ei holl ardaloedd trist;
Pa’m bydd yni neb yn byw
Heb adnabod y gwir Dduw.

Syrthied eu creulondeb mawr,
A’u didduwiaeth oll i’r llawr:
A phrysured boreu ddydd,
I droi miloedd i’r wir ffydd:
Ffydd yn haeddiant MAB-Y-DYN,
’Lanwo Ewrop oll yn un!

Ceir yn yr Hymnau Newyddion hefyd saith emyn mewn gwahanol fesurau, ond yn anffodus, dim ond un emyn gan Hugh Jones a arddelir yn gymharol gyffredin hyd heddiw, sef ‘O! tyn y gorchudd’. Dyma’r pennill cyntaf o saith a geir yn y gyfrol:

O! tyn
Y gorchgudd yn y mynydd hyn;
Llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn,
O ben y bryn bu addfwyn Oen,
Yn dioddef dan yr hoelion dur,
O gariad pur i mi mewn poen.

Mae ‘O! Tyn y Gorchudd’ yn emyn crefftus ei adeiladwaith, gyda chyflythrennu ac odlau mewnol yn cynyddu grym y dweud. Adlais o adnod yn llyfr Eseia, pennod 25, sydd yma, lle y deisyfa’r proffwyd y dydd y bydd Duw yn tynnu ymaith orchudd mynydd Seion ac yn datgelu’r gwirionedd iddynt.
Ond tybed nad oes yma adlais o gynefin y bardd hefyd: o Faesglasau, a’r niwloedd mynych sy’n cuddio copaon y bryniau o gylch? Mae Bobi Jones wedi dangos bod yr emyn yn nhraddodiad carolau plygain Powys, a’r mesur yn y pen draw yn seiliedig ar ddawns Ffrengig. Tynna sylw at y ddwy sillaf gyntaf sydd yn sefyll ar eu pennau eu hunain ymhob pennill: dyma ddau gam cyntaf y ddawns.20 Yn sicr, dyma waith enwocaf Hugh Jones erbyn heddiw, a pharhaodd yr emyn yn dra phoblogaidd dros y canrifoedd.
Yr Hymnau Newyddion oedd y gwaith olaf ond un i Hugh Jones ei argraffu ar ei gost ei hun. Nid oedd cyhoeddi llyfrau’n talu’n dda, a gwnaeth Hugh Jones golledion ariannol cynyddol wrth i ddiwedd y ddeunawfed ganrif agosáu. A cheryddwyd Hugh Jones gan ei gydaelodau Methodistaidd ym Mallwyd am ei ddyledion. Mewn llythyr at ei nai, y bardd Erfyl, ysgrifennodd yn ddiweddarach:

Though I ill succeeded in my endeavours to serve the public, I think I intended well, and wished to promote useful knowledge, as well as happiness amongst my countrymen.21

Ond digalonodd wedi’r cerydd, a rhoi heibio ei aelodaeth yn y capel. ‘Yr oedd ei duedd naturiol,’ meddai un sylwebydd, ‘yn ei arwain i fywyd o neilld-uaeth, fel y treuliai gryn lawer o’i amser ar ei ben ei hun, ac yn fynych yn dra digysur a phrudd-glwyfus.’22

Er hyn daliodd i lenydda a cheisio cyhoeddi. Yn sgil diwedd y rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc yn 1802 cyfansoddodd ddau draethawd pellach yn trafod materion y dydd, un yn galw am ‘[G]wymp Anghrist neu Ddinystr Pabyddiaeth - Dilead Mahometaniaeth ac Eilun-addoliaeth - Troedigaeth yr Iuddewon, a llwyddiant cyffredinol yr Efengyl yn y Dyddiau diweddaf.’ Ei amcan y tro hwn oedd cael nawdd gan rai o Gymry Llundain tuag at gostau argraffu’r gweithiau hyn. Dychwelodd i Lundain, felly, tua chanol Mehefin 1802, gan ysgrifennu at Gymry amlwg Llundain yn gofyn am nawdd. Ar y cyntaf o Orffennaf, er enghraifft, ysgrifennodd at William Owen Pughe yn amlinellu cynnwys y ddau ‘draethiad’, yn gofyn am nawdd, ac yn addo ei ad-dalu gyda’r elw a wneid o’r gwerthiant:

Having experienced some kindness and generosity among Friends & Neighbours only since I came to the Metropolis, which is near a Fortnight ago - I am still remaining in want of a small additional sum to defray the expenses of the above. [...]

Should Providence dispose some Well-wishers & Benefactors in London to favour me with farther assistance to carry on my present Plan; I intend to have the Pamphlet before mentioned printed at Shrewsbury or Oswestry on my return to Wales[...]23

Er ei fod yn gofyn am arian gan Gymry cefnog Llundain, pwysleisiodd mai ei amcan oedd addysgu’r werin bobl:

My capacity is but small and limited, and Performances suited only to the middling and lower class of People, whom I chiefly wish to benefit and be useful to them.24

Mae’n annhebygol i William Owen Pughe a’i gymdeithion yn Llundain roi’r nawdd angenrheidiol iddo, gan na welodd y gweithiau hyn erioed olau dydd. Rhaid derbyn bod Hugh Jones wedi dychwelyd o’i ail daith i Lundain yn haf 1802 yn waglaw, a’i gyfansoddiadau’n dal ar ffurf llawysgrif.
O hynny hyd tua 1817 bu’n cadw gwahanol ysgolion yn siroedd Meirionnydd a Threfaldwyn, gan gynnwys ysbaid hir yn Llanwddyn. Ond anodd oedd cael dau pen llinyn ynghyd. Yn wir, roedd ei amgylchiadau yn bur gyfyng, a gwelir hyn yn glir o ddau lythyr a ysgrifennodd at y Parchedig William Richards, Darowen yn y cyfnod hwn.
Ysgrifennwyd y cyntaf ar Hydref 27, 1816, ac ar ôl sôn am ei drafferthion yn ceisio sefydlu ysgolion yn Ninas Mawddwy ac ym Mhenrhiw’r Ciln, mae’n ymbil ar ficer Darowen am gymorth ariannol tuag at ei gynhaliaeth. Dywed ei fod yn poeni am ddyfodiad y gaeaf, ‘having not sufficient raiment to endure the severity of the winter season’.25 Erbyn y deunawfed o Chwefror 1817 roedd ei sefyllfa wedi gwaethygu’n enbyd, ac yntau ar fin gorfod gadael yr ysgol ym Mhenrhiw’r Ciln, ac yn ofni na châi byth waith eto oherwydd yr olwg dlodaidd a oedd arno: ‘my clothes being entirely worn out, I am afraid of being refused at another Place on that account’.26 Dyma sefyllfa druenus i &Mac249;r oedd ar fin cyrraedd oed yr addewid.
Yn fuan wedi hyn yn 1817 cafodd waith yn cyfieithu gan yr argraffydd a’r cyhoeddwr o Ddolgellau, Richard Jones. Fe’i cyflogwyd gan Richard Jones i gyfieithu gwaith anferth gan Flavius Josephus ar hanes yr Iddewon. Mae’r gwaith gorffenedig yn y Gymraeg yn 1,200 tudalen o hyd, ac mae’n debyg i’r cyhoeddwr wneud elw o ryw ddwy fil o bunnoedd ohono. Yn anffodus, ni welodd Hugh Jones fawr o’r enillion hyn. Talodd Richard Jones bedwar swllt a naw ceiniog yr wythnos iddo am wneud y gwaith. Nid oedd hyn yn ddigon i dalu am gadw corff ac enaid ynghyd, a dibynnai Hugh Jones yn helaeth ar gymorth ariannol gan ei gydnabod a’i berthnasau.
Wedi cwblhau gwaith enfawr Josephus aeth Hugh Jones yn ei flaen i gyfieithu esboniad Matthew Henry ar y Beibl, ond wedi ysbaid gadawodd wasanaeth ei feistr crintachlyd.
Ceisiodd gadw ysgol eto yn ardal Dolgellau (yn Ninas Mawddwy, Mallwyd ac Abercywarch), ond ni pharhaodd hynny’n hir, ac fe’i cawn ym mis Tachwedd 1821 mewn sefyllfa druenus yn ymbil mewn llythyr am gymorth gan ei gyfaill Gwallter Mechain, rheithor Manafon.27 Dyma Hugh Jones unwaith eto’n wynebu gaeaf llwm, ac ar ddiwedd y llythyr fe’i cawn yn ymddiheuro i Gwallter Mechain nad oedd hyd yn oed yn gallu talu cost anfon y llythyr.
Ym mis Awst 1822 ysgrifennodd ei nai, Erfyl, fod ei ewythr wedi ‘myned yn hen ac yn benllwyd ac yn crymu yn fawr [...] Mae ei amgylchiadau yn isel iawn, ac y mae yn byw ymron yn hollol ar elusennau.’28

Yn 1823 ceisiodd fynd ati i gyfieithu eto, gan dderbyn comisiwn gan Lewis Evan Jones yr argraffydd yng Nghaernarfon, brawd Richard Jones o Ddolgellau. Ar gyfer hwnnw cyfieithodd i’r Gymraeg lyfr o’r enw Domestic Medicine gan William Buchan, ond ni thalai’r cyhoeddwr hwn fawr mwy na’i frawd iddo, a gadwodd Hugh Jones ei wasanaeth wedi iddo gwblhau’r gwaith. Yn ffodus derbyniodd Hugh Jones rodd o ddeg punt gan y Literary Fund Society yn Llundain yn y flwyddyn honno, a fu’n gymorth iddo allu talu am fwyd, dillad a llety am beth amser.
Tua diwedd 1824 teithiodd Hugh Jones i Ddinbych er mwyn ymgymryd â’r gwaith o gyfieithu World to Come gan Isaac Watts ar gyfer Thomas Gee yr hynaf. Ar ei daith yn ôl i Ddolgellau a’r hin yn oer, ac yntau wedi gorfod chwilio llety yn nh&Mac223; crydd ym mhentref Henllan, clafychodd Hugh Jones. Ceisiodd fwrw ymlaen â’i waith, gan weithio ar ei liniau yng nghartref y crydd gan fod ei goesau wedi chwyddo’n enbyd. Bu’n wael yng nghartref y crydd am bum wythnos, ac yno ar yr unfed ar bymtheg o Ebrill 1825, ac yntau ar ganol cyfieithu Y Byd a Ddaw, bu farw Hugh Jones. Cafodd ei gladdu ym mynwent Henllan, ond ni roddwyd carreg fedd i nodi’r fan.
Hoffwn orffen drwy ddwyn sylw at un gymhariaeth sy’n dangos yn eglur natur drasig diwedd bywyd Hugh Jones, Maesglasau.
Cydoesodd Hugh Jones â’r bardd adnabyddus o’r Almaen, Johann Wolfgang Goethe. Ganed y ddau yn yr un flwyddyn, 1749. Bu farw Hugh Jones mewn tlodi ac unigrwydd yn 1825; cafodd Goethe saith mlynedd yn hwy, ac er nad oedd yn dlawd nac yn anadnabyddus ar ddiwedd ei oes, roedd mwyafrif ei deulu a’i gydnabod wedi marw o’i flaen. Magwyd y ddau mewn amgylchiadau digon cysurus, un ym Meirionnydd a’r llall yn Frankfurt am Main.
Mae cryn debygrwydd yn nodweddion cynharaf eu bywyd a’u gwaith. Cafodd y ddau addysg well na llawer o’u cyfoedion: aeth Goethe i’r brifysgol yn Leipzig pan oedd yn bedair ar ddeg oed, tra oedd Hugh Jones wrthi â’i ddarllen gartref ar y fferm. Pan oedd y ddau yn bedair ar bymtheg daeth un digwyddiad mawr i darfu ar rediad arferol bywydau’r naill a’r llall, ac i’w difrifoli: salwch, yn achos Goethe, a’i gorfododd i dreulio cyfnod estynedig yn ôl yn ei gartref; tröedigaeth grefyddol yn achos Hugh Jones.
Tebyg oedd cynhyrchion llenyddol cynharaf y ddau lenor ifanc, sef cyflwyniadau dramatig, ac roedd barddoniaeth gynharaf y ddau’n dra thelynegol ac uniongyrchol, yn dangos dylanwad caneuon gwerin (gyda Goethe dan ddylanwad syniadau Herder, a Hugh Jones yn dangos dylanwad traddodiad diwylliannol ei fro enedigol).
Ond hoffwn dynnu eich sylw i gloi at un cyd-ddigwyddiad rhyfeddol ym mywyd y ddau. Yn y flwyddyn 1772 aeth y naill a’r llall i fyw i le cwbl newydd. Aeth Goethe ar fusnes i dref fach brydferth Wetzlar; teithiodd Hugh Jones, fel y gwyddom, i Lundain. Ac yn sgil y profiadau arbennig a gawsant yn y llefydd hyn, cyfansoddwyd dau waith rhyddiaith angerddol a ffres gan y ddau lenor ifanc, a’r gweithiau hynny’n dra arloesol o fewn eu traddodiad llenyddol penodol. Yn rhyfeddol, cyhoeddwyd y ddau waith yn yr un flwyddyn, sef 1774.
Sôn yr wyf am nofel lythyrau Goethe, Die Leiden des jungen Werther (Poenau Werther Ifanc), a Chydymaith yr Hwsmon gan Hugh Jones.
Yn Wetzlar syrthiodd Goethe mewn cariad â merch oedd wedi dyweddïo â dyn arall. Y profiad hwn o garu un nad yw ar gael yw profiad Werther yn y gyfrol, profiad sy’n ei arwain at wallgofrwydd a hunanladdiad.
Ni chlywsom i Hugh Jones ymserchu yn yr un modd; yn hytrach, gellid dadlau mai ei hiraeth am ei gartref ym Maesglasau, ac yntau yn ‘s&Mac249;n a chythryfwl’ Llundain, a roddodd i Cydymaith yr Hwsmon ei ddeinameg arbennig.
Mae’r elfennau tebyg yn y ddau waith yn drawiadol. Mae rhyddiaith synhwyrus, delynegol, angerddol y ddau yn dal yn bleser ei ddarllen. Mae dylanwad geirfa ac ymadroddion y Beibl yn eglur ar fynegiant y ddau awdur, ac mae eu harddull hefyd yn dangos effaith meddylfryd yr hyn a elwir yn Empfindsamkeit (pwyslais ar y teimlad) wrth drafod llenyddiaeth Almaeneg y cyfnod hwn. Dyma agoriad llawen cyfrol Hugh Jones:

Wele’r gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymmaith; gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu: y dydd sydd beunydd yn ymestyn, a’r haul yn mynych ymddangos allan o babell y ffurfafen, ac nid ymgudd dim oddiwrth ei wres ef.29

Ar ddechrau ei gyfrol yntau mae adroddwr Goethe yr un mor angerddol wrth arllwys ei deimladau am hyfrydwch y Gwanwyn:

Mae llawenydd gogoneddus wedi llenwi fy enaid, fel y bore melys hwn o Wanwyn, ac mae’n boddhau fy nghalon yn llwyr.30

Egyr Hugh Jones ei ragymadrodd i Cydymaith yr Hwsmon trwy ddyrchafu’r hyn a ddysgir wrth fyfyrio ar y byd naturiol (ac ar y nefoedd), yn uwch na’r ddysg a geir mewn llyfrau:

Rhyw un deallgar a ofynnwyd iddo, pa fodd y daethe i gymmaint o wybodaeth heb ddeall ieithoedd dysgedig, na darllen nemmawr o lyfrau: I’r hyn yr attebodd, fod llyfr ym mha un y byddai ef arferol a darllen yn wastadol yn cynnwys ynddo dair dalen: Nefoedd, Daear, a Dwfr, a’r creaduriaid ynddynt megis llythrennau, yn nodi pethau anweledig.31

Yr un modd, yn un o’i lythyrau cyntaf, cawn Werther Goethe yn datgan wrth ei gyfaill fel a ganlyn:

Rwyt yn holi a ddylet anfon fy llyfrau ataf? – Gyfaill, rwy’n erfyn arnat yn enw Duw, gad fi’n rhydd oddi wrthynt. Dydw i ddim am gael fy arwain, fy nghymell, fy nhanio mwyach, onid yw’r galon hon yn cynhyrfu digon ei hun [...].32

Mae trafod Natur fel llyfr yn hen destun, wrth gwrs, ond mae ei amlygrwydd ar ddechrau’r ddwy gyfrol hon yn drawiadol. Fel y Rhamantwyr a ddaeth wedyn, mae Werther a’r Hwsmon yn chwilio am y Tragwyddol yn yr hyn sydd o’u cwmpas. Creaduriaid yr Oleuedigaeth yw’r ddau ohonynt, ac mae Rheswm yn rheoli pob darlun a geir ganddynt: y Rheswm sy’n rhoi i Gydymaith yr Hwsmon ei sylfaen ddamhegol, a’r Rheswm sy’n cyflyru Werther i’w archwilio’i hun ymhob un o’i lythyrau. Mae’r tensiwn rhwng eu dirnadaeth synhwyrus, uniongyrchol o’r bydol, ac ystyr arallfydol hynny, yn hydreiddio’r ddau waith, ac mae’r ymwybod â chyfyngiadau bywyd dyn ar y ddaear yn thema ganolog.
I Hwsmon Hugh Jones, wrth gwrs, mae’r llwybr trwy’r byd yn bodoli, a’r ‘cydymaith’ yn ei arwain yn sicr hyd y llwybr. Mae Werther yn ceisio canfod y llwybr hwnnw trwy gariad, ac yn methu; a hyn sy’n ei arwain at ei hunanladdiad trasig. Diddorol yw ystyried a fuasai Hugh Jones wedi cyfansoddi gwaith tebyg i nofel lythyrau Goethe petai heb ddod o dan ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd.
Daeth nofel Goethe yn bestseller pan y’i cyhoeddwyd yn 1776, a chafodd ei chyfieithu i nifer o ieithoedd gan ddod yn un o weithiau mwyaf dylanwadol y blynyddoedd hynny. Cylch cyfyngedig ardal Dinas Mawddwy oedd cynulleidfa Hugh Jones (yn ôl rhestr y tanysgrifwyr), ond roedd dros bedwar cant o’r rheiny, a siawns nad yw hynny’n gwneud Cydymaith yr Hwsmon yn rhyw fath o bestseller ei hun. Eto, anodd yw gwybod a ledaenwyd y gwaith ymhellach yng Nghymru (hyd nes y cafwyd golygiad ohono gan O.M. Edwards yn 1907, ac yna gan Henry Lewis yn 1949).
O’r gwaith cynnar, arloesol hwn aeth Goethe yn ei flaen i ddod yn brif fardd a llenor yr Almaen yn ei gyfnod, gan ddatblygu ei ddoniau llenyddol ac ysgolheigaidd i sawl cyfeiriad. Cafodd nawdd y Dug Karl August yn Weimar am flynyddoedd, ac roedd gan yr Almaen sefydliadau a chymdeithasau diwylliannol cryf i faethu ei athrylith ac i feithrin ei gynulleidfa.
Gwahanol iawn ydoedd yng Nghymru diwedd y ddeunawfed ganrif, nad oedd ganddi brin ddim sefydliadau diwylliannol, na chymdeithasau nac unigolion ychwaith, i gyflawni’r gwaith o faethu dawn lenyddol a meithrin cynulleidfa iddi. Os oedd dechreuadau Goethe a Hugh Jones yn debyg, gwahanol iawn oedd diwedd eu bywydau, ac awdur Cydymaith yr Hwsmon yn marw yn dlawd, unig ac anhysbys ymhell o fro Maesglasau, a’i enw bellach bron yn angof.

This article examines the life and work of neglected hymn writer and translator Hugh Jones (1749-1825). Raised in Cwm Maesglasau, a remote valley on the border between Merioneth and Montgomeryshire, Hugh Jones was educated at Mallwyd. Musically gifted, his youth was spent composing songs and interludes, but these were later relinquished when Jones came under the influence of the Methodist Revival at around twenty years of age. In 1772 he went to London where he published his first book, Cydymaith yr Hwsmon (1774), in which Jones uses scenes from country life as analogies for the Christian life. His sensuous prose style makes this one of the ‘lost classics’ of Welsh literature in the eighteenth century. Jones returned home around 1776 and used his inheritance to fund the publication of his own writings and translations. Chief amongst these are two volumes of verse: Gardd y Caniadau (1776) and Hymnau Newyddion (1797) which contains ‘O! Tyn y Gorchudd’, called by O.M. Edwards ‘the finest hymn in the Welsh language’. Jones’s publishing ventures ultimately led to financial ruin, for which he was severely chastised by his fellow Methodists. He died a pauper at Henllan in Denbighshire in 1825.